Ers degawdau clywyd cyhuddiadau cyson o du Cymry uchel eu parch fod cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydymdeimlo a Ffasgaeth yn ystod dyddiau duon y 1930au a'r Ail Ryfel Byd – cyhuddiad a fyddai'n pardduo enw unrhyw elyn gwleidyddol. Yn y gyfrol arloesol hon, mae sylwebydd gwleidyddol amlycaf Cymru yn pwyso a mesur gwirionedd y cyhuddiadau. Yn ogystal a bwrw goleuni newydd ar agweddau Plaid Cymru a'i harweinwyr yn ystod y cyfnod hanesyddol dan sylw, mae'r llyfr yn cyflwyno trafodaeth heriol ar natur diwylliant gwleidyddol y Gymru gyfoes.